Map ieithyddol o'r Traeth Ifori, gydag ieithoedd Kru yn wyrdd, ieithoedd Mande yn felyn, ieithoedd Gur yn borffor, ac ieithoedd Akan yn las.[1] | |
Enghraifft o'r canlynol | languages of a country |
---|---|
Gwladwriaeth | Y Traeth Ifori |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gwlad amlieithog yw'r Traeth Ifori, gyda thua 78 o ieithoedd brodorol.[2] Iaith swyddogol y wlad ydy Ffrangeg, iaith yr hen bŵer ymerodrol, ac mae rhyw draean o'r boblogaeth yn rhugl ynddi.[3] Mae'r Traeth Ifori yn aelod o Organisation international de la Francophonie, sefydliad rhyngwladol y byd Ffrangeg.
Mae'r nifer fwyaf o ieithoedd y wlad yn perthyn i un o dri is-grŵp o'r teulu Niger-Congo: Kwa yn y de, Mande yn y gogledd-orllewin, a Gur yn y gogledd-ddwyrain. Siaredir iaith fasnach o'r enw Dyula-Taboussi, neu Dioula, sy'n debyg i'r iaith Mande Bambara, gan fasnachwyr Mwslimaidd. Yn Abidjan, dinas fwyaf y wlad, siaredir bratiaith Ffrangeg o'r enw français de Moussa.
Nid oes ffurf genedlaethol na rhanbarthol ar iaith arwyddo. Mae pobl fyddar yn y Traeth Ifori yn defnyddio Iaith Arwyddion America (ASL), a gyflwynwyd i Orllewin Affrica gan y cennad Americanaidd Andrew Foster. Fodd bynnag, mae iaith arwyddo leol ym mhentref Bouakako yn ne'r wlad, a chanddi siaradwyr clyw yn ogystal â'r rhai sy'n fyddar.[4]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search